Ymateb y Llywodraeth: ‌SL(6)410 – Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig) (Cymru) 2023

 

Pwynt Craffu Technegol: Mae’r diffiniad o “ysbyty” y cyfeirir ato wedi ei gymryd air am air o baragraff 9 o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Cydnabyddir ei bod o gymorth i’r darllenydd i sicrhau y cyfeirir at ddarpariaethau mewn Deddfau eraill mor fanwl gywir â phosibl, a byddai cyfeirio at rifau adrannau penodol wedi rhoi rhagor o gymorth.

Nid yw’n glir bod hyn yn rhywbeth sy’n dod yn briodol o fewn cwmpas Rheol Sefydlog 21.2(v) o ran drafftio y mae angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr.